I wneud lluniadau, bydd angen pensil, pren mesur a phâr o gwmpasau. Defnyddir loci i ganfod ardaloedd sy’n bodloni meini prawf megis pellter penodol oddi wrth bwynt neu hanner ffordd rhwng dwy linell.
Er mwyn llunio ongl 60°, yn gyntaf, rydyn ni’n llunio llinell o unrhyw hyd. Yna gan ddefnyddio cwmpas, rydyn ni’n defnyddio hon fel sail i lunio triongl hafalochrog.
Er mwyn llunio’r triongl hafalochrog, rydyn ni’n:
agor y cwmpas at yr un dimensiynau â’n llinell wreiddiol
gosod pwynt y cwmpas wrth un pen o’r llinell a llunio arc
ailadrodd hyn wrth y pen arall, a dylai’r arcau groestorri lle dylen ni weld pigyn y triongl
Cysyllta bigyn y triongl at un pen o’r sail, ac yna bydd gen ti ongl 60°.
Llunio ongl 30°
Er mwyn llunio ongl 30°, rhaid i ti’n gyntaf lunio ongl 60° fel uchod ac yna haneru’r ongl.
Llunio ongl 90°
Er mwyn llunio ongl 90°, rwyt yn llunio llinell sail ac yna’n llunio hanerydd perpendicwlar i adael ongl o 90°.
Llunio ongl 45°
Er mwyn llunio ongl 45°, yn gyntaf, llunia hanerydd perpendicwlar llinell, i adael ongl o 90°. Yn ail, gan ddilyn y camau uchod, hanera’r ongl. Dylai hyn dy adael gydag ongl o 45°.