Llunio trionglau
Gallwn lunio trionglau a siapiau eraill yn gywir drwy ddefnyddio onglydd, pâr o gwmpasau a phren mesur.
Llunio trionglau gan wybod Ochr Ongl Ochr (SAS)
Mae arnon ni angen hyd dwy ochr a maint yr ongl sydd rhyngddyn nhw.
Enghraifft
Gwna luniad cywir o driongl sydd â hyd ei ochrau’n 4 cm a 6 cm ac ongl o 40° rhyngddyn nhw.
Image caption, Llunia ochr hiraf y triongl gan ddefnyddio pren mesur
Image caption, Defnyddia onglydd i fesur ongl 40°. Gosoda ganol yr onglydd ar bwynt A. Cyfra o sero gradd ar y llinell lorweddol i 40° a rho farc wrth y pwynt hwn. Pwynt B yw hwn
Image caption, Defnyddia bren mesur i lunio llinell o A i B fel ei bod yn 4 cm o hyd
Image caption, Llunia drydedd ochr y triongl o B i C
1 of 4
Llunio trionglau gan wybod Ongl Ochr Ongl (ASA)
Mae arnon ni angen maint dwy ongl a hyd yr ochr sydd rhyngddyn nhw.
Enghraifft
Gwna luniad cywir o driongl gyda’r onglau 40° a 70°, ac ochr sy’n 8 cm o hyd rhyngddyn nhw.
Image caption, Llunia’r ochr gan ddefnyddio pren mesur
Image caption, Defnyddia onglydd i fesur yr ongl 40°. Gosoda ganol yr onglydd ar bwynt D. Cyfra o sero gradd ar y llinell lorweddol at 40°. Rho farc lluniadu wrth 40°
Image caption, Defnyddia bren mesur i lunio llinell o D drwy’r marc lluniadu. Gwna hi’n un hir
Image caption, Defnyddia onglydd i fesur yr ongl 70° o E. Gosoda ganol yr onglydd ar bwynt E. Cyfra o sero gradd ar y llinell lorweddol at 70°. Rho farc wrth 70°, sef pwynt F
Image caption, Defnyddia bren mesur i lunio llinell o E i F. Gwna’n siŵr ei bod yn croesi’r llinell 40°
1 of 5
Llunio trionglau gan wybod Ochr Ochr Ochr (SSS)
Mae arnon ni angen hyd y tair ochr.
Enghraifft
Gwna luniad cywir o driongl a hyd ei ochrau’n 3 cm, 5 cm a 6 cm.
Image caption, Llunia’r ochr hiraf gan ddefnyddio pren mesur
Image caption, Agora’r pâr o gwmpasau nes eu bod yn 5 cm o led (defnyddia bren mesur i’w fesur). Llunia arc o bwynt H uwchben y llinell
Image caption, Agora’r pâr o gwmpasau nes eu bod yn 3 cm o led. (defnyddia bren mesur i’w fesur). Llunia arc o bwynt J uwchben y llinell
Image caption, Cer ati i uno’r arc at bwyntiau H a J gan ddefnyddio pren mesur
1 of 4
Fel gyda phob lluniad, gwna’n siŵr nad wyt yn cael gwared â’r llinellau llunio. Mae’r rhain yn dangos bod y trionglau wedi eu llunio’n gywir.