I wneud lluniadau, bydd angen pensil, pren mesur a phâr o gwmpasau. Defnyddir loci i ganfod ardaloedd sy’n bodloni meini prawf megis pellter penodol oddi wrth bwynt neu hanner ffordd rhwng dwy linell.
Wrth lunio pedrochrau, rydyn ni fel arfer yn eu ffurfio allan o ddau driongl. Er mwyn llunio ein trionglau, mae angen i ni wybod naill ai:
hyd y tair ochr (SSS)
un ochr a dwy ongl (ASA) neu
ddwy ochr ac un ongl (SAS)
Wrth lunio pedrochrau, mae arnat ti angen o leiaf bum darn o wybodaeth. Gelli naill ai gael gwybodaeth am hyd yr ochrau (S), onglau (A) neu hyd y croesliniau (D).
Gan ddefnyddio’r wybodaeth sydd gen ti, edrycha i weld pa drionglau y gelli di eu llunio. Dim ond tair o ochrau’r pedrochr sydd angen i ti eu llunio’n gywir, gan y gelli gwblhau’r siâp drwy gysylltu corneli’r ochrau eraill.