Deall meddwl yn feirniadol a datrys problemau
Mae gallu meddwl yn feirniadol a datrys problemau yn bwysig iawn.
Mae’r rhain yn sgil trosglwyddadwy Sgil y mae’n bosibl ei defnyddio mewn llawer o wahanol leoliadau – yn yr ysgol, yn y gweithle neu mewn profiadau bywyd o ddydd i ddydd., hynny yw mae modd eu trosglwyddo i wahanol sefyllfaoedd – yn yr ysgol, yn y gweithle neu mewn profiadau bywyd o ddydd i ddydd.
Meddwl yn feirniadol
Mae meddwl yn feirniadol yn golygu dy fod yn cwestiynu'r wybodaeth rwyt ti’n ei chlywed neu’n ei darllen, yn hytrach na’i derbyn yn ddi-gwestiwn. Mae meddwl yn feirniadol yn dy helpu i weld safbwyntiau gwahanol a llunio dadleuon, yn ogystal â gwerthuso dadleuon sy’n cael eu cyflwyno gan bobl eraill.
Datrys problemau
Mae datrys problemau yn ymwneud â defnyddio rhesymeg Defnyddio ffordd gywir o resymu. a dychymyg i wneud synnwyr o sefyllfa a chynnig ateb deallus.
Gallwn feddwl am ddatrys problemau fel proses.
Nid drwy ystyried pa mor anodd yw’r broblem y mae mesur llwyddiant, ond drwy ystyried ai’r un broblem â’r un oedd gennych y llynedd yw hi.