Meddwl yn feirniadol a datrys problemauDylanwadau cymdeithasol

Gall gwahanol dechnegau ddatgelu pa wybodaeth i'w defnyddio wrth ddatrys problemau. Mae’n bosibl defnyddio meini prawf hygrededd er mwyn penderfynu pa mor gredadwy yw ffynonellau.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Dylanwadau cymdeithasol

Mae dylanwadau cymdeithasol yn ymwneud ag agweddau diwylliannol a demograffig yr amgylchedd. Mae yn cyfeirio at nodweddion mewn poblogaeth, er enghraifft:

  • iaith a diwylliant
  • crefydd
  • cyrhaeddiad addysgol (ee dim cymwysterau, addysg at safon TGAU neu Safon Uwch, addysg at safon gradd)
  • lefel incwm
  • galwedigaeth
  • strwythur teuluoedd (ee , , )

Mae gan fusnesau ddiddordeb yn y bobl sy’n byw o’u cwmpas oherwydd maent yn fwy tebygol o fod yn gwsmeriaid iddynt.

Enghraifft bywyd go iawn

Gwreiddiau lotws ar werth mewn marchnad stryd
Figure caption,
Efallai byddi di'n gweld gwreiddiau lotws ar werth mewn ardal lle mae'r gymuned Tsieineaidd yn ffynnu

Weithiau bydd archfarchnad yn penderfynu ehangu’r math o gynnyrch mae’n ei werthu er mwyn diwallu anghenion y gymuned leol.

Er enghraifft, os oes nifer o Tsieineaid neu Bwyliaid yn byw mewn ardal arbennig, efallai bydd archfarchnad yn penderfynu gwerthu cynnyrch fel gwreiddiau lotws (llysieuyn sy’n cael ei ddefnyddio’n aml wrth goginio bwyd Tsieineaidd) neu sauerkraut (bresych wedi eu piclo, sy’n boblogaidd yng Ngwlad Pwyl).

Hefyd, mewn ardaloedd lle mae incwm yn uchel, efallai bydd mwy o fanwerthwyr lleol yn gwerthu cynnyrch am , er enghraifft orielau celf neu dai bwyta unigryw.

More guides on this topic