Meddwl yn feirniadol a datrys problemauDibynadwy

Gall gwahanol dechnegau ddatgelu pa wybodaeth i'w defnyddio wrth ddatrys problemau. Mae’n bosibl defnyddio meini prawf hygrededd er mwyn penderfynu pa mor gredadwy yw ffynonellau.

Part of Cenedlaethol: Sylfaen CA4Her dinasyddiaeth fyd-eang

Dibynadwy

Wrth benderfynu a yw’r ffynhonnell yn ddibynadwy, bydd angen ystyried y canlynol:

  • arbenigedd

Didueddrwydd

Mae didueddrwydd yn golygu gofyn cwestiynau penodol.

  • A yw ffynhonnell yn ochri gyda rhywun penodol?
  • A oes rheswm neu gymhelliad i wyrdroi'r gwir, neu geisio perswadio pobl i feddwl mewn ffordd arbennig?

Os 'nac ydy' a 'nac oes' yw'r atebion i'r cwestiynau hyn, yna mae hi'n debygol o fod yn ffynhonnell ddiduedd.

Question

Sut fyddet ti’n canfod a yw sefydliad yn ddiduedd?

Buddiant breintiedig

Ffordd arall o weld pa mor ddibynadwy yw ffynhonnell yw drwy benderfynu a oes ganddi fuddiant breintiedig mewn rhywbeth.

Hynny yw, a yw’r ffynhonnell yn cael budd o ryw fath drwy ddiogelu neu hyrwyddo’r diddordeb hwnnw? Mae buddiant breintiedig yn gallu cynnwys:

  • gwneud arian
  • cadw awdurdod
  • datblygu enw da

Tuedd

Gallai tuedd ffynhonnell fod yn seiliedig ar:

  • agwedd unochrog, sy’n anwybyddu tystiolaeth a fyddai'n gallu gwrth-ddweud barn benodol
  • diffyg safbwynt niwtral cryf
  • peidio â chadw meddwl agored a fuasai'n gallu arwain at

Arbenigedd

Mae dibynadwyedd hefyd yn golygu ystyried arbenigedd ac enw da’r ffynhonnell.

Wrth benderfynu a yw dogfen yn gredadwy, mae’n bwysig ffurfio barn ynglŷn ag arbenigedd y person wnaeth ei hysgrifennu. Mae person sy'n meddu ar arbenigedd penodol yn cael ei alw'n awdurdod.

Mae enw da yn bwysig hefyd. Os yw awdur yn cael ei barchu, bydd ganddo enw da. Yn gyffredinol, mae pobl yn gallu dibynnu ar berson sydd ag enw da, ac bydd ganddynt hygrededd.

Enghraifft bywyd go iawn un

Llun agos o bentwr o bapurau newydd yn barod i’w dosbarthu

Robert Maxwell oedd pennaeth cwmni Mirror Group Newspapers ac roedd ganddo ddiddordeb personol yn y Blaid Lafur yn niwedd y ganrif ddiwethaf. Roedd rhai pobl yn awgrymu byddai darllenwyr papur newydd y Mirror yn fwy tebygol o bleidleisio dros Lafur ar sail y wybodaeth roeddent yn ei darllen - gwybodaeth nad oedd bob amser yn ddiduedd.

Enghraifft bywyd go iawn dau

Llawer o bobl yn dal baneri’r Undeb Ewropeaidd yn yr awyr

Enghraifft o ffynhonnell ddibynadwy yw erthygl academaidd. Byddai Wicipedia yn enghraifft o ffynhonnell annibynadwy. Er bod Wicipedia yn fan cychwyn da er mwyn cael golwg gyffredinol ar rywbeth, mae angen gwneud yn siŵr fod y ffeithiau’n gywir drwy edrych ar ffynonellau eraill. Er enghraifft, mae’r ffeithiau am gystadleuaeth Eurovision Song Contest 2016 wedi ymddangos yn wahanol yn Wicipedia i’r hyn oedd i’w weld ar wefan swyddogol yr Eurovision Song Contest. Pa un fyddet ti’n fwyaf tebygol o’i gredu?

Cyfoes

Mae’n bwysig edrych ar ddyddiad y ffynhonnell. Mae gwybodaeth yn gallu dyddio, a gallai hyn olygu ei bod yn anghywir.

Enghraifft bywyd go iawn un

Pan fydd llywodraeth newydd yn cael ei hethol, bydd hi'n aml yn ceisio newid cyfreithiau'r wlad. Bydd hyn yn golygu bod unrhyw ffynonellau sy’n ymwneud â yn dyddio, ac o ganlyniad byddant bellach yn anghywir.

Mae gwaith ymchwil yn digwydd ar hyd yr adeg, ond hyd yn oed os oes gwybodaeth sy’n cefnogi mewn project, mae’n bwysig edrych ar y dyddiad cyhoeddi rhag ofn bod gwybodaeth fwy diweddar ar gael sy’n gwrth-ddweud yr ymchwil blaenorol.

Enghraifft bywyd go iawn dau

Mae’r llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau sy’n nodi faint o unedau o alcohol mae’n ddiogel i oedolyn eu hyfed. Roedd y cyfanswm ar gyfer dynion yn 21 uned yr wythnos am flynyddoedd, ond yn 2016 cafodd y cyfanswm ei ostwng i 14 uned yr wythnos.

Perthnasol

Mae’n bwysig ystyried pa mor berthnasol yw’r ffynhonnell. Bydd y math o wybodaeth sydd ei angen hefyd yn effeithio ar berthnasedd y ffynhonnell.

Enghraifft bywyd go iawn

Os wyt ti angen y newyddion diweddaraf am ddigwyddiad, y ffynonellau gorau fyddai papurau newydd, gwefannau newyddion a rhaglenni newyddion ar y teledu. Fodd bynnag, os wyt ti angen gwybodaeth am effaith hirdymor digwyddiad, efallai byddai cylchgronau, cyfnodolion neu ddyddiaduron yn ffynonellau mwy priodol.

Defnyddiol

Mae angen i’r ffynhonnell wybodaeth fod yn ddefnyddiol hefyd. Mae angen iddi gynnwys gwybodaeth gredadwy a phriodol sy'n hawdd i'w deall.

Enghraifft bywyd go iawn

Byddai data hanesyddol yn ddefnyddiol wrth wneud ymchwil ar gyfer traethawd, ond efallai na fyddai’n ddefnyddiol wrth wneud ymchwil i ganfod barn pobl am gyfnod mewn hanes. Efallai hefyd bydd ambell ddogfen yn ymddangos yn berthnasol ar yr olwg gyntaf, ond ar ôl edrych yn fanylach arni yn mynd i gyfeiriad amherthnasol, felly nid yw’r ddogfen yn ddefnyddiol wedyn.

More guides on this topic