Pa heriau oedd yn wynebu Gweriniaeth Weimar rhwng 1919-1923?
Themâu allweddol
Effaith Cytundeb Versailles
Gwendidau llywodraeth Weimar
Ansefydlogrwydd gwleidyddol – y Spartaciaid, Putsch Kapp a Putsch Munich
Gorchwyddiant
Digwyddiadau yn y Ruhr 1923
Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yr Almaen wedi ei churo a mewn helynt gwleidyddol ac economaidd. Roedd yr economi wedi ei ddifetha ac roedd y Kaiser wedi ffoi o’r wlad. Roedd nifer o bleidiau gwleidyddol, democrataidd ac eithafol, yn ymladd am rym.
Roedd llywodraeth Weimar, a sefydlwyd ar ôl y Rhyfel, yn cael trafferth rheoli’r wlad ac roedd yn amhoblogaidd iawn am iddi dderbyn Cytundeb Versailles.
Erbyn 1923 roedd yr Almaen mewn trafferthion gwleidyddol ac economaidd difrifol. Doedd hi ddim yn gallu talu eu iawndaliadau ac yn wynebu trychineb ariannol. Roedd sawl ymgais i ddymchwel y Weriniaeth.