Effaith y Rhyfel Byd CyntafCyflwyniad

O ganlyniad i golli’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llywodraeth newydd yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yn wynebu cyfres o heriau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol. Pa sialensiau wnaeth wynebu Gweriniaeth Weimar rhwng 1919 a 1923?

Part of HanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Cyflwyniad

Wedi ei ffurfio yn 1871, rheolid yr Ymerodraeth Almaenig gan ymerawdwr grymus, Kaiser Wilhelm II. Roedd gan y wlad senedd, sef y , ond pwerau cyfyngedig yn unig oedd gan ei haelodau etholedig. Roedd yr Almaen dan reolaeth gaeth y Kaiser a’i weinidogion.

Yn 1914, aeth yr Almaen i ryfel yn erbyn Prydain, Ffrainc a Rwsia.

Erbyn Medi 1918, dechreuodd cadfridogion blaenllaw yr Almaen sylweddoli eu bod wedi colli’r Rhyfel Byd Cyntaf. Sioc enfawr i’r wlad oedd hyn. Cafwyd wythnosau o drais a therfysg wrth i’r Almaenwyr fynegi eu cynddaredd.

Ar 11 Tachwedd 1918, arwyddodd yr Almaen y Cadoediad i ddod â’r Rhyfel Mawr i ben. Ar 19 Ionawr 1919, cynhaliwyd etholiadau i’r llywodraeth newydd.

Cyfarfu llywodraeth newydd am y tro cyntaf yn Weimar ar 6 Chwefror 1919. Penodwyd Friedrich Ebert yn a phenodwyd Philipp Scheidemann yn . Roedd yr Almaen bellach yn weriniaeth ddemocrataidd. Roedd democratiaeth wedi’i gorfodi ar yr Almaenwyr.