Ideoleg Natsïaidd
Roedd pobl yr Almaen wedi dioddef yn ofnadwy yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ystod y Dirwasgiad MawrDirywiad economaidd hir, yn dechrau ar ôl Cwymp Wall Street, a effeithiodd ar y byd i gyd., a rhan enfawr o apêl y Natsïaid oedd eu bod yn addo gwneud economi’r Almaen yn gryf eto. Nod Hitler oedd sicrhau cyflogaeth lawn ac erbyn 1939 doedd prin ddim diweithdra swyddogol yn yr Almaen. Roedd hefyd eisiau gwneud yr Almaen yn hunangynhaliol, cysyniad o'r enw autarkyEconomi caeedig. Syniadaeth Hitler oedd y dylai’r Almaen roi’r gorau i fasnachu â’r byd oddi allan a dibynnu’n llwyr ar ei hadnoddau ei hun., ond aflwyddiannus yn y pen draw oedd yr ymgais i wneud hynny.
Cyflogaeth a safonau byw
Dechreuodd raglen enfawr o weithiau cyhoeddus, a oedd yn cynnwys adeiladu ysbytai, ysgolion ac adeiladau cyhoeddus fel Stadiwm Olympaidd 1936. Wrth adeiladu 7,000 cilomedr o autobahnTraffyrdd yr Almaen. crëwyd gwaith i 80,000 o ddynion.
ailarfogiCynhyrchu arfau a chynyddu'r fyddin. oedd yn gyfrifol am ran helaeth o’r twf economaidd rhwng 1933 ac 1938. Dechreuwyd ailarfogi bron cyn gynted ag y daeth Hitler i rym ond fe ddaeth yn gyhoeddus yn 1935.
Yn 1933, gwariwyd 3.5 biliwn o farciau ar gynhyrchu tanciau, awyrennau a llongau, ac erbyn 1939, roedd y ffigwr yn 26 biliwn o farciau. Crëwyd miliynau o swyddi i weithwyr yr Almaen. Cafodd y defnydd o olew, haearn a dur ei dreblu, gan greu amrywiaeth o swyddi gwahanol.
Pasiodd Hitler y Ddeddf Cwtogi Diweithdra ym mis Mehefin 1933. Fe wnaeth hyn helpu i sefydlu sefydliad pwysig - y Gwasanaeth Llafur Cenedlaethol, Reichsarbeitsdienst (RAD) a oedd yn anelu i leihau diweithdra a chyflyru’r gweithlu. Yn wirfoddol i ddechrau, ond yn orfodol o 1935, roedd rhaid i bob dyn rhwng 18-25 oed:
- gwblhau chwe mis o hyfforddiant yn y RAD
- gwisgo gwisg filwrol
- byw mewn gwersylloedd
- derbyn arian poced yn unig – dim cyflog
- gwneud ymarfer corff/milwrol bob dydd, ee plannu coedwigoedd a thorri ffosydd ar ffermydd
Cyflogaeth anweledig
Er i’r Almaen hawlio bod ganddi gyflogaeth lawn erbyn 1939, roedd amryw o grwpiau o bobl heb eu cynnwys yn yr ystadegau.
- Roedd 1.4 miliwn o ddynion yn y fyddin ar y pryd.
- Cafodd Iddewon eu diswyddo a rhoddwyd eu swyddi i bobl nad oedd yn Iddewon.
- Cafodd menywod eu hannog i ildio’u swyddi i ddynion.
Autarky
Ceisiodd y polisi autarky wneud yr Almaen yn hunangynhaliol, fel na fyddai angen mwyach i Almaenwyr fasnachu’n rhyngwladol. Yn 1936, penodwyd Hermann Göring yn arweinydd y Cynllun Pedair Blynedd (1936-40). Roedd ei bwerau a'r cynllun ei hun yn mynd yn groes i gynllun Schacht, y gweinidog economaidd ar y pryd, ac ymddiswyddodd Schacht yn 1937.
Bwriad y Cynllun Pedair Blynedd oedd cyflymu’r broses ailarfogi a gwneud yr Almaen yn wlad hunangynhaliol i sicrhau ei bod yn barod am ryfel. Nid oedd y mesurau a gyflwynodd, fel rheolaeth dynnach ar fewnforion a chymorthdaliadau i ffermwyr i gynhyrchu mwy o fwyd, yn llwyddiannus. Erbyn dechrau’r Ail Ryfel Byd roedd yr Almaen yn dal i fewnforio 20 y cant o’i bwyd a 33 y cant o’i defnyddiau crai.