Effaith y Rhyfel Byd CyntafAnsefydlogrwydd gwleidyddol

O ganlyniad i golli’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llywodraeth newydd yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yn wynebu cyfres o heriau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol. Pa sialensiau wnaeth wynebu Gweriniaeth Weimar rhwng 1919 a 1923?

Part of HanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Ansefydlogrwydd gwleidyddol

Wedi i’r Almaen golli’r Rhyfel Byd Cyntaf, dihangodd y Kaiser a chyhoeddwyd llywodraeth ddemocrataidd newydd yr Almaen yn Chwefror 1919 yn nhref fach Weimar. Ymgais wirioneddol oedd Gweriniaeth Weimar i greu gwlad berffaith.

Y sbectrwm gwleidyddol

Mae pobl asgell chwith eisiau mwy o reolaeth i’r gweithwyr ac i rannu cyfoeth y wlad yn fwy cyfartal. Roedd y (KDP) ar yr ochr chwith eithafol.

Mae pobl asgell dde eisiau mwy o reolaeth i'r elit traddodiadol, y cyfoethog, y fyddin ayyb. Roedd y Natsïaid (NSDAP) ar yr ochr dde eithafol.

Roedd eithafwyr y ddwy ochr yn erbyn Gweriniaeth Weimar.

Llun du a gwyn o dorfeydd yn Putsch Kapp ym Mawrth 1920.
Figure caption,
Torfeydd yn Putsch Kapp ym Mawrth 1920

Wynebodd Gweriniaeth Weimar wrthryfela treisgar gan wahanol grwpiau, heb sôn am broblemau economaidd trychinebus. Roedd trais ac anhrefn yn ddi-baid.

  • Roedd rhai o bobl yr Almaen yn gomiwnyddion, ac eisiau cyflwyno llywodraeth gomiwnyddol fel un Rwsia. Cafwyd sawl gwrthryfel comiwnyddol. Er enghraifft, yn Ionawr 1919, gwrthryfelodd 50,000 o yn Berlin, dan arweiniad y comiwnyddion Rosa Luxemburg a Karl Leibknecht. Gwrthodwyd y gwrthryfela gan y fyddin a’r Freikorps asgell dde gydag ymladd chwerw ar y strydoedd. Dioddefodd y ddwy ochr golledion sylweddol.
  • Ym Mawrth 1920, cafwyd gwrthryfel Putsch Kapp. Cymerodd y cenedlaetholwr adain dde, Dr Wolfgang Kapp, reolaeth dros Berlin gyda’r nod o sefydlu llywodraeth newydd gan fod y gwrthryfelwyr yn ddig wrth y llywodraeth am lofnodi Cytundeb Versailles. Gwrthododd y fyddin ymosod arno, a dim ond pan aeth gweithwyr Berlin ar streic, wedi ei drefnu gan weithredwyr adain chwith, y cafodd ei drechu.
  • Yn 1920, wedi methiant Putsch Kapp, gwrthryfelodd grŵp parafilwrol Comiwnyddol o’r enw y Fyddin Goch yn y Ruhr.
  • Fe wnaeth cenedlaetholwyr terfysgol lofruddio 356 o wleidyddion y llywodraeth, gan gynnwys Walter Rathenau, y gweinidog tramor, a Matthias Erzberger a fu’n weinidog cyllid. Byddai’r barnwyr, llawer ohonynt yn driw i lywodraeth y Kaiser, yn gyson yn rhoi dedfrydau ysgafn i’r brawychwyr hyn, neu’n eu gollwng yn rhydd.

Digwyddodd prif argyfwng llywodraeth Weimar yn 1923, pan fethodd yr Almaen dalu yn brydlon, gan roi cychwyn ar gyfres o ddigwyddiadau.

  • Ymosododd y Ffrancwyr ar y Ruhr i gymryd nwyddau drwy rym.
  • Gorchmynnodd Llywodraeth Weimar y gweithwyr i “ymwrthod yn oddefol", lle roedden nhw’n rhoi’r gorau i weithio a chynhyrchu dim y gallai'r Ffrancod eu dwyn.
  • Roedd y gweithwyr yn ufuddhau a stopiodd ardal y Ruhr gynhyrchu nwyddau, serch hynny, roedd dal angen cyflogau ar y gweithwyr.
  • Argraffodd y llywodraeth fwy o arian ar gyfer y gweithwyr, ond buan iawn y daeth yr arian hwnnw'n ddiwerth oherwydd chwyddiant.

Gorchwyddiant

Daeth llif sydyn o arian i mewn i'r economi ac nid oedd nwyddau'n cael eu cynhyrchu oherwydd streic gyffredinol. Golygai'r ffactorau hyn bod mwy o arian ond llai o nwyddau i’w prynu. Arweiniodd hyn, ynghyd ag economi gwan oedd wedi ei ddinistrio gan y rhyfel, at orchwyddiant.

Aeth prisiau allan o reolaeth – er enghraifft, roedd torth o fara, a gostiai 250 marc yn Ionawr 1923, wedi codi i 200,000 miliwn marc erbyn Tachwedd 1923. Aeth arian cyfred yr Almaen yn ddiwerth. Dioddefodd pobl dosbarth canol â chynilion yn arbennig o ddrwg.