Effaith polisïau economaidd y Natsïaid ar bobl yr Almaen
Cafodd polisïau economaidd y Natsïaid wahanol effeithiau ar wahanol grwpiau economaidd yn y gymdeithas.
Busnesau mawr - Roedd y Natsïaid wedi addo ffrwyno grym y monopoliDaw sefyllfa o fonopoli pan fydd un cwmni’n dal 25% neu fwy o gyfran y farchnad, fel ei fod i bob pwrpas yn rheoli diwydiant penodol., ond erbyn 1937 nhw oedd yn rheoli dros 70 y cant o gynhyrchu. Bu ailarfogi o 1935 ymlaen yn hwb i elw cwmnïau arfau mawr, a gwelodd rheolwyr y prif gwmnïau diwydiannol godiad o 50 y cant yn eu hincwm rhwng 1933 ac 1939.
Busnesau bach - Tynhawyd y rheolau ynghylch agor a rhedeg busnesau bach, gan achosi i 20 y cant ohonynt gau.
Ffermwyr - A hwythau wedi bod yn un o brif ffynonellau eu cefnogaeth etholiadol yn ystod eu hesgyniad i rym, elwodd ffermwyr dan y Natsïaid. Erbyn 1937, roedd prisiau amaethyddol wedi codi 20 y cant a chododd cyflogau amaethyddol yn gynt na chyflogau mewn diwydiant. Pasiwyd Deddf Ffermydd Etifeddol yn 1933 a sicrhaodd na ellid adfeddiannu ffermydd oddi wrth eu perchnogion, gan roi mwy o sicrwydd i deuluoedd ffermio.
Er colli eu rhyddid, gwella wnaeth bywyd yn yr Almaen i lawer o bobl gyffredin a oedd yn barod i gydymffurfio er mwyn cael swydd a chyflog.